Erthygl Draig Goch – Trident

Mae San Steffan yn lle od i unrhyw genedlaetholwr. O fewn wythnosau i mi gael fy ethol yn 2010, cafwyd Cyllideb frys gan y Glymblaid newydd. Y bwriad oedd lleihau’r diffyg yng nghyllideb y wladwriaeth Brydeinig trwy fabwysiadu arbrawf hurt mewn cyfuno ariannol, wedi ei seilio ar leihad syfrdanol mewn buddsoddi cyhoeddus.

Yn ystod y trafodaethau, gosododd grwpiau’r Blaid a’r SNP welliant yn galw ar i’r Llywodraeth wrthdroi penderfyniad a wnaed gan y Llywodraeth Lafur yn ei Hadolygiad Amddiffyn Strategol yn 2008 i greu system newydd o arfau niwclear tanfor i olynu Trident.

Bydd y system newydd yn costio oddeutu £100 biliwn dros 30 mlynedd ei hoes. Mae hynny £20 biliwn yn fwy na’r pedair blynedd o doriadau mewn gwario cyhoeddus a amlinellwyd yn yr Adolygiad Gwariant yn Hydref 2010. Rhesymeg y pleidiau cenedlaethol oedd mai un ffordd amlwg i gynilo oedd rhoi’r gorau i’r system newydd o arfau niwclear. Roeddwn i’n tybio fod hyn yn safiad digon rhesymol. Ond llond dwrn wnaeth gefnogi’n safbwynt yn ystod y bleidlais, gyda’r tîm tag Llafur-Ceidwadwyr yn uno i’n trechu. Roedd yn well gan y pleidiau Unoliaethol amddiffyn symbol o oferedd llwyr nag amddiffyn dinasyddion y wladwriaeth rhag tlodi.

Wrth gwrs mae buddugoliaeth ysgubol yr SNP yn etholiadau seneddol yr Alban wedi gweddnewid yr holl sefyllfa. Bellach fe fydd refferendwm annibyniaeth yn Hydref 2014 gyda goblygiadau enfawr i bolisi arfau niwclear y wladwriaeth Brydeinig. Byddai llywodraeth Alban annibynnol yn dilyn polisi amddiffyn confensiynol, heb arfau niwclear di-werth. Byddai’n mynnu fod y llongau tanfor yn gadael Faslane.

Mae’r Alban yn unedig yn ei gwrthwynebiad i’r defnydd o Faslane gan y Wladwriaeth Brydeinig i leoli arfau niwclear. Bydd hyn yn un o brif ddadleuon yr ymgyrch “ie” dros y flwyddyn a hanner nesaf.

Mae’r Llywodraeth Brydeinig mewn panig llwyr wrth edrych am safleoedd addas i ail leoli Trident. Ac yn y cyd-destun hwnnw cafwyd ymrwymiad anhygoel gan Brif Weinidog Cymru bod croeso i’r Weinyddiaeth Amddiffyn ymgartrefu ym mhorthladd Aberdaugleddau. Barn Carwyn Jones yw bod Cymru wir angen y 500 o swyddi sydd ynghlwm â Trident yn Faslane.

Y cwestiwn cyntaf sy’n codi yw, onid ydy £100 biliwn yn bris rhy uchel am ddim ond 500 o swyddi? O ystyried bod polisïau gwario’r Llywodraeth Brydeinig yn sgil yr Adolygiad Gwariant (llai o arbedion na chost system Trident newydd) yn debygol o arwain at golli miliwn o swyddi sector gyhoeddus trwy wledydd Prydain, mae rhesymu economaidd Prif Weinidog Cymru yn anllythrennog.

Yr ail gwestiwn yw, pa effaith fydd lleoli Trident yn aber y Cleddau yn ei gael ar dwf yr ardal fel safle ynni o bwys? Mae miloedd o swyddi’n dibynnu ar y diwydiant ynni, sector nad yw’n cyd-fyw’n gysurus gydag arfau niwclear. Yn wir, gall geiriau annoeth Prif Weinidog Cymru greu digon o ansicrwydd i atal buddsoddi pellach yn y sector ynni yn ne orllewin Cymru..

Yn olaf, gwn fod Llywodraeth Prydain wedi datgan nad yw Devonport yn ne orllewin Lloegr yn addas i ail leoli Trident, wedi i asesiadau diogelwch ddatgelu fod amheuon enfawr. Byddai damwain neu ymosodiad strategol ar Devonport yn arwain at ddinistr dynol annerbyniol.

Gofynnais y cwestiynau Seneddol naturiol sy’n dilyn y datgeliad yma. Yn gyntaf, pa asesiad a wnaethpwyd yn y Cleddau? Yn ail, o ystyried polisi Llafur yng Nghymru o leoli holl arfau niwclear y Wladwriaeth Brydeinig ar ein tir ni, pa ohebiaeth oedd Llywodraeth Cymru wedi ei ddanfon at eu meistri yn Llundain yn gofyn am asesiadau diogelwch? Yr ateb i’r ddau gwestiwn oedd “dim”.

Allaf i ddim meddwl am unrhyw benderfyniad gwleidyddol ag iddo gymaint o oblygiadau o ran diogelwch ein pobol na lleoli arfau niwclear ar ein lawnt ni. Ond eto mae’r Blaid Lafur yn barod i gynnig drws agored heb roi unrhyw ystyriaeth i effaith damwain arfau niwclear neu ymosodiad strategol yn Sir Benfro.

Mae’r dewis o flaen pobl Cymru yn hollol glir. Plaid Cymru yw’r unig blaid fydd yn cadw Cymru’n rhydd o arfau niwclear. A’r pleidiau cenedlaethol yn yr Alban a Chymru sy’n arwain y frwydr yn erbyn gwastraffu biliynau o bunnoedd ar arfau hollol ddiangen a di-fudd.

Discussion Area - Submit a comment

Your reply will be moderated and not appear immediately. You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.