10 February 2010
Stephen Carr yn yr Independent
Mae Stephen Carr yn ysgrifennydd scets o fri, a heddiw yn yr Independent mae’n datgan fel pennawd ei erthygl: ‘Plaid Cymru’s Fearsome Threesome pack quite a punch’.
http://www.independent.co.uk/opinion/commentators/simon-carr/the-sketch-plaid-cymrus-fearsome-threesome-pack-quite-a-punch-1894555.html
Cyfeirio mae Stephen at waith Elfyn Llwyd, Adam Price a Hywel Williams yn y Senedd. Grŵp y Blaid oedd y cyntaf i lanio ergyd ar Teflon Tony wedi darganfod bod Blair wedi defnyddio ei rôl fel Prif Weinidog i hybu buddiannau busnes dur Lakshmi Mittal yn Rwmania. Roedd Mittal wrth gwrs yn un o brif gefnogwyr y Blaid Lafur ac wedi cyfrannu £2m i’w coffrau. Y trasiedi o ran gweithwyr dur Cymru oedd bod ymerodraeth busnes Mittal yn gystadleuydd uniongyrchol a’i cyflogwyr hwy.
O edrych yn ôl dros y cyfnod rhwng dechrau’r ganrif a’r dirwasgiad, Irac oedd y prif bwnc Seneddol. Ac unwaith eto, grŵp y Blaid a arweiniodd y gwrthwynebiad i’r rhyfel. Gyda’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ddiwerth – Plaid Cymru ddefnyddiodd y systemau Seneddol i ddal Llafur Newydd i gyfrif.
Mae’r dyfyniad ‘Tiny Plaid Cymru are a great Parliamentary asset….have probably had more effect on Parliament than the entire Liberal Democrats’ yn dweud y cyfan. Dychmygwch y gwaith gall tîm cryf o ASau’r Blaid a SNP ei gyflawni yn arbennig felly mewn sefyllfa o fwyafrif Ceidwadol bychain neu Senedd Grog!
Blog
- 13 July 2010
Speech Finance Bill Committee Stage – VAT increase - 6 July 2010
Regional Pay Back on the Agenda - 3 July 2010
Wales Home Article – The Next Road Lies Before Us - 24 June 2010
Emergency Budget Response Speech - 23 June 2010
Western Mail Article on the Budget - 17 June 2010
Western Mail Essay – Emergency Budget - 9 June 2010
My Maiden Speech - 1 June 2010
International Community Must Act to open Gaza Strip for Humanitarian Aid - 23 May 2010
Institute of Welsh Affairs blog ‘ Reflections of a Rookie MP’ - 22 May 2010
Araith Rali Cymdeithas yr Iaith 22/5/2010 - 15 May 2010
It’s The Real Economy Stupid! - 8 May 2010
What Happens Next? - 7 May 2010
Araith Buddigoliaeth/Acceptance Speech - 5 May 2010
Towards Financial Stringency – blog for Institute of Welsh Affairs - 29 April 2010
Gutter Politics - Blog Archive -> ->
Discussion Area - Submit a comment
Your reply will be moderated and not appear immediately. You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.
Man Trafod - Rhowch sylwad yma
Bydd eich ateb yn cael ei gymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch baratoi eich testun mewn prosesydd geiriau cyn ei roi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.