We oppose the downgrading of Ammanford Fire Station
Sign our Petition

‘Wind of Change’ – Conference Speech

(English section further down)

Cyd genedlaetholwyr, mae’n fraint cael annerch Cynhadledd Flynyddol Plaid Cymru yma yn nhref Llangollen.

Rydym yn cwrdd prin chwe wythnos wedi refferendwm hanesyddol annibyniaeth yr Alban. Refferendwm, er gwaethaf y canlyniad sydd wedi newid hanes perthynas cenhedloedd y Wladwriaeth Brydeing am byth.

Rwy’n cofio areithio yng Nghynhadledd ein chwaer blaid Mebyon Kernew yn 2011 a nodi bryd hynny mai nid canlyniad y refferendwm o reidrwydd oedd y peth pwysig. Roedd buddugoliaeth anhygoel yr SNP yn etholiadau Senedd yr Alban yn 2011 yn golygu bod y veto synicaidd unoliaethol a oedd wedi atal llais yr Albanwyr ar ddyfodol eu gwlad wedi diflannu. Hynny yw, y peth allweddol oedd bod y refferendwm yn digwydd.

Am y tro cyntaf roedd rhaid i’r elit gwleidyddol yn San Steffan esbonio pam roeddent yn meddwl mai nhw, a nid pobol yr Alban ddylai reoli gwlad y Dewr.

Yn ystod Cynhadledd Wanwyn y Blaid yn Ffos Las y flwyddyn ganlynol nes i rybuddio y byddai’r Wladwriaeth Brydeinig yn defnyddio pob tric posib i atal pleidlais Ie.

Cafwyd un o’r ymgyrchoedd mwyaf negyddol posib gan y sefydliad gwleidyddol gyda’r enw agored Project Fear. Defnyddiwyd pob math o bropaganda gyda holl adnoddau’r Wladwriaeth yn cael eu defnyddio i godi ofn ar bobl yr Alban, yn enwedig pobl oedrannus.

Rwy’n credu bod profiad yr Alban yn dangos y math o rymoedd gwleidyddol sydd yn ein herio fel mudiadau cenedlaethol. Yr unig beth sydd o’n plaid yw bod dyhead pobol am ryddid yn y pendraw yn curo pob gormes.

Mae refferendwm yr Alban wedi dangos pa mor ddi-sylwedd yw gwleidyddiaeth y pleidiau unoliaethol. Mater o amser yw hi bellach nes bydd yr Alban yn wlad annibynnol, a’n dyletswydd a’n cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod Cymru mewn safle i’w hefelychu.

Cyn dadansoddi canlyniad y refferendwm, hoffwn ddiolch o galon ar ran yr Ymgyrch Ie i’r cannoedd o aelodau’r Blaid a deithiodd i’r Alban i ymgyrchu dros ryddid ein cefndryd celtaidd.

Bues i’n ymgyrchu yn bennaf yn Glasgow, bron i ddegawd ers i mi ymweld â’r ddinas anhygoel honno ar gyfer is-etholiad Glasgow Cathcart. Rwy’n credu trwy hap a damwain pur i fi aros yn yr un gwesty – ond mae honno yn stori arall!!

Nes i ymgyrchu yn rhai o ardaloedd tlotaf y ddinas lle mae disgwyliad oes dynion yn y 50au canol, yr isaf yn y Wladwriaeth Brydeinig. Roedd yn un o’r profiadau gwleidyddol mwyaf anhygoel fy mhywyd. Rhywbeth a fydd yn ysbrydoliaeth i mi am weddill fy oes.

Ymchwydd gwleidyddol go iawn gydag unigolion a oedd wedi hen ddatgysylltu o wleidyddiaeth arferol yn gweld y refferendwm fel cyfle i neilltuo’r hen drefn bwdr yn San Steffan, a chreu math newydd o wleidyddiaeth wedi selio ar gyfiawnder cymdeithasol a thegwch economaidd.

Mae’r athrylith gwleidyddol a Chyfarwyddwr Etholiadau’r SNP, a fy nghyd Aelod Seneddol Angus Robertson, wedi gofyn i mi ddatgan ar ei ran ei ddiolch ar ran ein cyfeillion yn yr Alban am ein hymrwymiad i’w brwydr.

“I would like to express the deep gratitude of the SNP to our friends and allies in Plaid Cymru for your contribution to the Yes campaign. It was an inspiration for our activists and supporters to welcome so many comrades from Wales to our country to join in our fight for freedom. Your contribution proved to our fellow countrymen that the fight against a moribund Westminster system was one that united peoples from across the UK.

Our parties have a proud shared history, and after we finish the job in Scotland I’m confident that my fellow countrymen will be with you in Wales to assist you when your time comes.”

Gyfeillion, er gwaethaf y siom mae refferendwm yr Alban wedi siglo’r Wladwriaeth Brydeinig i’w chraidd. Ond addewidion o fwy o bwerau ar noswyl y refferendwm wnaeth achub y dydd. Ond fel y gwyddom mae’r addewidion hynny wedi hen ddatgymalu yn barod.

Mae awdur yr ‘Adduned’ enwog a wnaethpwyd i bobl yr Alban, Gordon Brown, bellach wedi cychwyn deiseb yn mynnu bod yr addewidion wnaeth ef i bobol yr Alban yn cael ei gadw. Rhaid dweud ond llaw dwrn o weithiau rwyf wedi gweld y cyn Brif Weinidog yn Nhý’r Cyffredin ers i mi gael fy ethol, a tybiaf fod e efallai wedi sylweddoli mai nid achubwr yr Undeb fydd ei feddargraff – ond y dyn wnaeth ddinistrio’r blaid Lafur yn yr Alban unwaith ac am byth.

Dyna beth yw tynged haeddiannol Llafur am y modd wnaethon nhw ochri gyda’r blaid Geidwadol ar fater gwleidyddol diffiniedig ein hoes. Portreadwyd yr addewid gan y wasg fel devo max, er nid oes unrhyw fwriad gan y pleidiau unoliaethol ildio holl bwerau San Steffan heblaw am amddiffyn a pholisi tramor. Beth bynnag sy’n cael ei gynnig i’r Alban, bydd yn siom i’r 1.6 miliwn wnaeth bleidleisio dros annibyniaeth, yn ogystal a’r cannoedd ar filoedd yn ol y polau a newidiodd eu meddwl ar y funud olaf, o bosib ar sail addewid o hunanlywodraeth llawn o fewn yr Undeb.

Mae tynged Llafur yn yr Alban yn nwylo’r blaid Geidwadol ac mae’r polau piniwn yn dangos bod yr SNP ar fin ennill nifer o seddi San Steffan Llafur. Fe fydd y Senedd nesaf felly yn cael ei dominyddu gan ddadlau cyfansoddiadol ac mae’n hanfodol os nad yw Cymru am gael ei hesgeuluso unwaith eto bod carfan gryf o Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn cael ei hethol ym mis Mai i amddiffyn buddiannau ein gwlad.

Does dim pwynt edrych i’r pleidiau unoliaethol – yr unig beth mae nhw’n becso amdano yw eu diddordebau personol. Nid yw lles, anghenion a dyheadau pobol Cymru yn ystyriaeth iddynt.

Llynedd yn ein cynhadledd fe wnes i amlinellu’n fras gwaith ymchwil manwl y Comisiwn Silk, ac roedd yn dangos bod pobl Cymru am weld y Cynulliad Cenedlaethol yn gyfrifol am bob maes polisi heblaw am amddiffyn a pholisi tramor.

Yn sgil y refferendwm yn yr Alban comisiynodd y BBC bôl gan ICM yn dangos bellach bod mwyafrif clir o bobl Cymru eisiau mwy o bwerau i Gymru. 56% yn credu dylai Budd-daliadau bod yn gyfrifoldeb i’r Cynulliad Cenedlaethol yn hytrach na San Steffan gyda ond 27% o blaid y status quo. Bod 60% o blaid datganoli Cyfiawnder Troseddol ac ond 28% yn erbyn. 46% o blaid datganoli Treth Incwm a 37% yn erbyn. (need to check I’ve got the figures right and all the policy fields)

Felly mae symudiad mawr arall wedi bod mewn prin flwyddyn o ran cefnogaeth pobl Cymru i rymuso ein sefydliadau democrataidd. Fel wnes i amlinellu yn ystod trafodaethau diweddar Tý’r Cyffredin ar Ddeddf Cymru, effaith refferendwm yr Alban yw symud barn pobl Cymru ar drafodaeth gyfansoddiadol tu hwnt i gynnwys y ddeddf ac argymhellion y Comisiwn Silk, er gwaethaf manylder gwaith Paul Silk a’i dȋm .

Er gwaethaf cyfyngiadau Deddf Cymru, a mawr hyderaf y bydd Dafydd Wigley a Dafydd Ellis Thomas yn llwyddo i’w chryfhau yn ystod trafodaeth yr Arglwyddi, ar y ddeddf, rhaid i ni genedlaetholwyr ond cadw un peth mewn cof. Pob tro mae pwerau yn cael eu trosglwyddo i’n Cynulliad Cenedlaethol mae gafael San Steffan dros Gymru yn gwanhau.

Mae’r tirlun cyfansoddiadol yn newid gyfeillion. Mae’r tir gwleidyddol yn symud o dan draed y pleidiau unoliaethol. Ond fel malwod cysglyd meant yn methu ymateb i’r hyn sy’n digwydd.

Mae Deddf Cymru yn esiampl yn ei hun o sut nad oes modd ymddiried yn addewidion yr unoliaethwyr. Bwriad Deddf Cymru oedd mabwysiadu argymhellion traws bleidiol rhan un Comisiwn Silk o ran pwerau trethiant i Gymru. Ond beth welwyd wrth gwrs oedd y Llywodraeth Ceidwadol a Democratiaid Rhyddfrydol yn saethu torpedo trwy’r argymhellion roeddent gynt wedi cytuno arnynt. Strategaeth Llafur oedd tanseilio’r ddeddf hyd yn oed yn fwy, sy’n profi mai nhw bellach yw’r blaid sydd fwyaf gwrthyn i ddatganoli.

Cafwyd yr un profiad wrth i Aelodau Seneddol y Blaid geisio defnyddio Deddfau Cyllid yn San Steffan i ddatganoli cyfrifoldeb dros dreth teithwyr awyr. Yn anhygoel ar ddau achlysur mae Aelodau Seneddol Llafur wedi gwrthod ein cefnogi, er mai Llywodraeth Llafur Cymru sydd yn berchen ar ein hunig faes awyr rhyngwladol yng Nghaerdydd.

Gyfeillion, yn sgil datblygiadau yn yr Alban mae’n gyfrifoldeb arnom ni fel plaid i gynnig arweiniad ar ddyfodol ariannol ein gwlad. Mae angen pecyn cryf o bwerau cyllidol ar Gymru i sicrhau bod gweithredoedd ein llywodraeth yn atebol i bobl ein gwlad, ond yn fwy pwysig i gymhell Llywodraethau Cymru’r dyfodol i ddatblygu ein heconomi.

Ein her yw sicrhau bod Cymru yn medru sefyll ar thraed ei hun a’r unig ffordd i wneud hynny yw cryfhau’r economi Gymreig. Mae rheolaeth uniongyrchol o San Steffan wedi hen fethu a’r unig ateb yw grymuso ein Llywodraeth ni gyda’r offer cyllidol fydd yn ein galluogi i ymyrryd yn economaidd a chreu polisiau wedi eu selio ar ein hanghenion fel cenedl.

Yn ganolog i’r pecyn ariannol sydd angen ar Gymru yw’r angen i neilltuo’r fformiwla Barnett sydd bellach wedi colli pob hygrededd. Tra bod y Llywodraeth Brydeinig yn gwrthod diwygio’r fformiwla a Llywodraeth Lafur Cymru yn galw am lawr a fydd yn hoelio anghyfiawnderau’r system, rwy’n falch i gyhoeddi heddiw bod tim economaidd y Blaid dan arweiniad Eurfyl ap Gwilym yn gweithio ar becyn ariannol amgen i’n gwlad.

Fe fyddwn yn cyflwyno hyn i bobol Cymru cyn etholiad San Steffan, ac o ystyried bod 71% o’n cyd ddinasyddion o blaid newid Barnett, rydym ar dir ffrwythlon iawn.

Conference

Conference, whichever way we look at it, the United Kingdom – or the Diss-United Kingdom as it should be renamed – is by far the most unequal State in the European Union. Its inequality was one of the great drivers of that grass roots movement which nearly steered Scotland towards independence. Westminster only offers austerity, neo-liberalism and privatisation no matter who is in power. All three Westminster parties are signed up to a strategy that radically redefines the role of the State where the public sector’s influence is reduced to a bare minimum.

One of the great galvanizing factors of the Yes campaign was the desire to protect public services and especially the Health Service. The Welsh Health Service also faces pressures from the pro privatisation agenda in Westminster. Due to the way Welsh taxpayers’ money is re-allocated to Wales by the Treasury, spending decisions for Departments in England impact upon policy decisions in Wales. Health Managers in England are openly discussing nightly charges of 75 pounds for those unfortunate enough to have to stay in hospital. The Welsh Health Service is under threat therefore from the political priorities of Westminster. Let no one be in any doubt that the current constitutional settlement does not protect the Welsh Health Service from Westminster. Greater Welsh political autonomy is the only way to protect our health service.

Central to the growing aspirations of the people of Scotland and Wales has been the rapid increase in individual and geographical wealth inequalities within the UK. Nine of the ten poorest regions in Northern Europe are in the UK. The UK is also home to the richest – Inner London. This inequality is profound. London is in effect a city state that hoovers resources, investment and wealth from other parts of the British State.

The Westminster parties are in complete subservience to the financial sector in London, and economic policy seems to be based on inflating house prices and consumer debt regardless of who is in government.

Despite the mayhem caused by the financial crash, what we have seen since 2008 is a return to business as usual. It’s incredible that all three Westminster parties are signed up to a plan by the new Governor of the Bank of England to inflate banking assets to nine times the size of the UK economy. They were 550% at the time of the crash. Despite heady promises of geographical and sectoral economic rebalancing, unsurprisingly there has been little progress.

Westminster hasn’t worked for Wales, Scotland, and English regions outside the South East for a long time. Central to our Westminster manifesto will be a dedicated programme to reduce wealth inequalities within the British State at both an individual and geographical level.

As I said last year, for as long as the Party of Wales sends representatives to Westminster we will be a reformist force. Unlike Labour, Lib Dem and Tory MPs, we don’t go down there to protect the interests of the super rich and big business.

The election will undoubtedly result in a hung Parliament once again. For the First Past the Post system to produce definitive results there needs to be two conditions. Firstly an election with only two competitors like in the United States. Or parties that stand on different contrasting platforms.

Given that Labour has morphed into the Tories and the Lib Dems are eviscerated by years in Coalition – there is no real difference between the Westminster parties. With the Lib Dems heading for oblivion it is likely that the Plaid Cymru/SNP/Green group will hold the balance of power.

Let me spell out what our priorities will be during the course of the next Parliament.

We will continue to demand that Wales gets a fair share of infrastructure investment ending the disgraceful manner in which the Treasury label England only projects as UK wide developments, thus depriving our country billions of pounds worth of investment. HS2 is projected to cost near 80 billion pounds by independent economists. The Tories have pledged a HS3 railway for Northern England at an initial cost of 7 billion pounds. There are demands to extending Crossrail 1 from London to the Home Counties, with others in London arguing for Crossrail 2 at a cost of 15 billion pounds. There are advanced plans for an underground inner orbital road for London at a cost of 30 billion pounds. Boris Johnson is calling for one point three trillion pounds of infrastructure investment in London to cope with the extra demand created by HS2. At the same time Wales is one of only three countries on the whole of the European continent without a single mile of electrified rail line.

Where Welsh taxpayers money is being spent on these projects, we should be receiving our fair share. We will demand a Treasury protocol which ensures that Welsh taxpayers no longer subsidise infrastructure investment in England without a corresponding share for our communities.

We will not support plans to spend 100 billion pounds on a new nuclear weapons system, with money invested instead in protecting public services across the UK.

We will ensure that any new powers offered to Scotland are also made available to Wales. We will insist that the Welsh constitution is devolved so that power over the political destiny of our country rests in the hands of the people of Wales and not in the feathered nest of Westminster.

We will be the driving force for a fiscal and funding package that enables the Welsh Government to intervene in our economy – making up for decades of Westminster neglect.

We will be the only party that will fight to ensure that the natural resources of Wales belong to the people of Wales.

We will be the only party committed to protecting Welsh public services from Westminster privatisation.

Friends, the winds of change are blowing once again through Europe. The historic nations of our continent are awakening. From Catalonia to Corsica, Sardinia to Scotland people are not choosing to drop anchor – instead they are choosing to set sail!!

There is no more powerful a message in Welsh politics than equality with Scotland. With a clear majority there now demanding the promised devo max, over 60 per cent in a recent opinion poll – the Westminster elite better deliver or Scotland will be lost.

The next Westminster parliament will see seismic constitutional changes and it is imperative that there is a strong Team Wales promoting and protecting the interests of our country.

In our ‘Bring our Government Home’ document, Plaid Cymru shows that we have a detailed plan for the way forward for Wales. Contrast this with the internal contradictions and divisions that split all the Westminster parties. The question the people of Wales need to ask themselves is who do they trust to lead them through the negotiations in the next Parliament? The party with a clear vision for the way forward or parties who haven’t got a clue whether they are coming or going?

My message to our political opponents is this: No longer will you hold back the aspirations of the people of Wales. You will never undermine our belief in the people of our country. You will never destroy our determination to build a more just and prosperous economy. You will never crush the dream of political freedom for Wales.

Our message to the people of Wales is this: Ultimately as a country we have a defining choice. The Westminster elite have failed us for far too long. As the example of Scotland shows, the only way Westminster will ever take notice of Wales is if the people of our country support Plaid Cymru.

Gyfeillion, as we campaign for the forthcoming General Election our job is to persuade our fellow citizens of this simple truism:

“Westminster is for the establishment elite: Wales can be ours”.

Diolch yn fawr iawn.